Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Hydref 2018
Amser:
09.05 -
12.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5166
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Mark Isherwood AC Jenny Rathbone AC David Melding AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Debbie Wilcox Carys Lord, Cyngor Bro Morgannwg Tom Jones |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitemau 3 a 7 y cyfarfod.
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Carys Lord, Pennaeth Cyllid, Cyngor Bro Morgannwg
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu:
· Nodyn ar ymagwedd awdurdodau lleol tuag at gynnydd yn y dreth gyngor, gan gynnwys yr amrywiadau mewn dulliau ar gyfer y sawl sydd â chronfeydd wrth gefn uwch neu is;
· Enghreifftiau o sut y mae llywodraeth leol yn ymgysylltu â'i holl weithlu gyda'r agenda iechyd ataliol;
· Nodyn ar gyfran y gofal cymdeithasol a ddarperir gan ddarparwyr preifat.
3.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Jones, Uwch-reolwr Prosiect, Viridis Real Estate.
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mewn perthynas â'r ymchwiliad i rôl celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru.
5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.